Amdanom ni

Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus Merthyr Tudful sy’n darparu’r gwasanaeth llyfrgell statudol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Llywodraethir llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru gan Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd 1964 ac maent yn gweithio tuag at gyrraedd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yw’r dull y gall y Gweinidog sy’n gyfrifol am lyfrgelloedd ei ddefnyddio i fesur a yw’r gwasanaeth yn cyflawni yn unol â Deddf 1964.

Ein Hymrwymiadau

Mae gan Lyfrgelloedd Cyhoeddus Merthyr Tudful ymrwymiad i sicrhau bod pawb sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal Merthyr Tudful yn elwa ar wasanaeth llyfrgell cryf.

Strategaeth Llyfrgell

Ein gweledigaeth yn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Merthyr Tudful yw gweledigaeth a rennir ledled Cymru ac mae’n ymgorffori gweledigaeth Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli:

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

Darllenwch Adroddiad Asesu Blynyddol