- Copïau o Gofrestrau Bedydd, Priodasau a Chladdedigaethau ar gyfer llawer o eglwysi Merthyr Tudful.
- Ffurflenni Cyfrifiad a Mynegeion Enwau Personol ar gyfer Merthyr Tudful bob deng mlynedd rhwng 1841 a 1901.
- Mynegeion Arysgrif Coffaol
- Mynegeion cyhoeddedig gan Gymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg
- Rhestrau Pleidleiswyr Cynnar a Chofrestrau Etholiadol ar gyfer Merthyr Tudful. Nodyn: Mae bylchau mawr yn y dilyniannau.
- Merthyr Express (Argraffiad Merthyr) a phapurau newydd cynnar eraill Merthyr Tudful ar ficroffilm o 1864.
- Mynediad i’r British Newspaper Archive o’n holl gyfrifiaduron AM DDIM i gyrchu cyfrifiaduron y Llyfrgell
- Mapiau Arolwg Ordnans Cynnar ar gyfer Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a mapiau hanesyddol eraill.
- Cyfeirlyfrau Sirol Cynnar ar gyfer Sir Forgannwg
- Casgliad helaeth o ffotograffau lleol
Mae gennym hefyd y gwasanaethau canlynol i’ch helpu gyda’ch ymchwil:
- Sganiwr A3 i ddigideiddio hen luniau teulu a phethau cofiadwy eraill
- Argraffydd A3 a lamineiddiwr ar gyfer coed teulu a siartiau
- Ystod eang o lyfrau hanes lleol a theuluol a all eich helpu i ennill sgiliau a gwell dealltwriaeth o sut oedd bywyd i’ch cyndeidiau
- Aelodau o staff wrth law i ateb eich cwestiynau
Os na allwch ymweld yn bersonol, efallai y bydd ymchwil yn cael ei wneud ar eich rhan. Codir tâl am y gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni ar library.services@merthyr.gov.uk neu 01685 725258 am manylion.