eLyfrau eAwdio a eWasg

Gallwch nid yn unig fenthyca llyfrau a stoc sain gennym ni yn bersonol, ond gallwch hefyd lawrlwytho llyfrau electronig a llyfrau sain i'w darllen ar eich eDdarllenydd, llechen, ffôn clyfar neu chwaraewr MP3.

Mae Llyfrgelloedd Merthyr Tudful yn rhoi mynediad i chi i dri chatalog sy’n cynnwys cannoedd o eLyfrau ac eLyfrau Llafar i’w lawrlwytho AM DDIM gyda benthyciadau yn amrywio o 1 i 21 diwrnod. Os yw'r llyfr rydych ei eisiau ar fenthyg gallwch gadw'r teitl ac anfonir e-bost atoch pan fydd eich teitl yn barod i'w fenthyg.

Os byddwch yn gorffen llyfr cyn ei fod yn ddyledus yn ôl, gallwch yn hawdd ei ddychwelyd neu aros iddo ddychwelyd yn awtomatig ar ddiwedd cyfnod eich benthyciad.

I gael mynediad at ein casgliadau eLyfrau ac eLyfrau Llafar cliciwch yma am ragor o wybodaeth.