Gwasanaeth CyswlltCartref
Ydych chi’n gaeth i’r tŷ oherwydd oedran, gwendid neu anabledd ac yn methu dod i unrhyw un o Lyfrgelloedd Merthyr?
Efallai bod aelod o’ch teulu yn gaeth i’r tŷ, neu eich bod yn gymydog, yn ofalwr neu’n weithiwr iechyd proffesiynol sydd â chysylltiad â rhywun nad yw’n gallu gadael y tŷ?
Os felly, mae Gwasanaeth HomeLink Llyfrgell Gyhoeddus Merthyr Tudful ar eich cyfer chi.
Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni yr hoffech gofrestru ar gyfer Gwasanaeth HomeLink a bydd ein llyfrgellydd arbenigol yn eich ffonio am sgwrs gyfeillgar. Bydd hi'n treulio peth amser yn dod i'ch adnabod chi a'ch hoffterau darllen gan gynnwys y mathau o lyfrau rydych chi'n eu hoffi, eich hoff awduron a phynciau, yn ogystal â darganfod a hoffech chi gael eich dewis mewn Print Normal, Print Bras neu fformatau sain.
Yna byddwn yn danfon atoch unwaith bob tair wythnos. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi gorffen y llyfrau, sydd gennych eisoes, byddwch yn gallu eu cadw tan yr ymweliad nesaf. Byddwch hefyd yn gallu newid nifer yr eitemau y byddwch yn eu benthyca os byddwch yn gweld nad oes gennych ddigon neu fod gennych ormod.
Cyswllt: Jayne O'Brien
Ffôn: 01685 725258 estyniad 1
E-bost: library.services@merthyr.gov.uk