Llyfrgell Canolog Merthyr

Oriau Agor y Llyfrgell
Cau Gwyliau: Mae holl Lyfrgelloedd Cyhoeddus Merthyr Tudful ar gau ar Wyliau Banc Cyhoeddus s
Dydd | Amser |
---|---|
Dydd Llun | 9yb - 6yp |
Dydd Mawrth | 9yb - 6yp |
Dydd Mercher | 9yb - 6yp |
Dydd Iau | 9yb - 6yp |
Dydd Gwener | 9yb - 6yp |
Dydd Sadwrn | 9yb - 1yp |
Dydd Sul | Arg au |
Am y Llyfrgell
Mae Llyfrgell Ganolog Merthyr yn adeilad rhestredig Gradd II, a adeiladwyd ar safle hen ysgol Dewi Sant. Adeiladwyd y Llyfrgell gan ddefnyddio arian a roddwyd gan Ymddiriedolaeth Carnegie. Wedi'i dylunio gan y Cynghorydd T. Edmund Rees o'r cwmni pensaernïol Johnson, Richards & Rees, mae'r llyfrgell yn enghraifft arwyddocaol o'r arddull "Arts and Crafts Modern". Wedi'i hagor yn swyddogol ym 1936, mae'n cynrychioli cyfuniad o grefftwaith traddodiadol gyda dylanwadau modernaidd, gan adlewyrchu dyheadau diwylliannol a thueddiadau pensaernïol y cyfnod.
Cyfeiriad: Llyfrgell Ganolog Merthyr, Stryd Fawr, Merthyr Tudful CF47 8AF
Ffôn: 01685 725258 extension 1
E-bost: Library.services@merthyr.gov.uk
- Gellir cyrraedd y llyfrgell drwy ramp wrth ochr yr adeilad.
- Parcio am ddim ar gael yng nghefn y llyfrgell i ddeiliaid Bathodynnau Glas.
Mae Llyfrgell Ganolog Merthyr yn gartref i ystod eang o ddeunyddiau – Ffuglen a Ffeithiol, Iau, Arddegau ac Oedolion yn Gymraeg a Saesneg. Mae gennym ddetholiad o brint bras, sain, nofelau graffeg, a chasgliad Reading Well. Mae Llyfrgell Merthyr hefyd yn gartref i'r stoc wrth gefn. .
Mae'r Llyfrgell Ganolog hefyd yn ganolfan ar gyfer ein casgliad Hanes Lleol.
- WiFi cyhoeddus am ddim
- Argraffydd / llungopïwr lliw a du a gwyn (A4 ac A3).
- Mynediad cyhoeddus am ddim i gyfrifiaduron a gliniaduron.
- Darllenydd microffilm.
- Cofnodion Hanes Lleol.
- Casgliad ffotograffau lleol.